Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Os yw eich clwb angen cyfleusterau ar gyfer cyfnodau cymharol fyr o amser (e.e. ychydig oriau ar gyda’r nos yn ystod yr wythnos, neu un noson yr wythnos yn ystod y tymor chwarae), dylech ystyried cysylltu â’ch canolfan chwaraeon / hamdden leol, neu gyfleuster hamdden preifat, i wneud ymholiadau ynghylch archebion. Mewn cyfleusterau prysur, efallai ei bod yn anodd cael hyd i le ac efallai y bydd rhaid i chi fodloni ar archebu amser / diwrnod nad yw’n ddewis cyntaf gennych, neu efallai y bydd rhaid i chi aros am y cyfnod archebu newydd cyn cael lle.
Bydd sawl Awdurdod Lleol yn ystyried llunio cytundebau gyda chlybiau chwaraeon / gweithgarwch corfforol i brydlesu / trwyddedu eiddo neu gyfleusterau yn seiliedig ar nifer o amodau. Gall y rhain gynnwys prydles hirdymor ar eiddo presennol ar sail eithriol, neu osod cyfleusterau am dymor byr, ar gyfer dyddiau neu amseroedd penodol yn rheolaidd.
Cydnabyddiaeth