Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae hyfforddi’n rhoi llawer iawn o foddhad.
Mae hyfforddwyr yn allweddol i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Maent yn chwarae rhan hanfodol mewn sicrhau bod pobl yn cael eu denu at chwaraeon, yn mwynhau chwaraeon ac yn dal ati i gymryd rhan am oes.
Mae angen hyfforddwyr ar bob lefel mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol, o ddechreuwyr i berfformwyr elitaidd. Waeth beth yw’r lefel, mae rôl yr hyfforddwr yn amhrisiadwy er mwyn creu’r amgylchedd priodol ar gyfer darparu’r profiad chwaraeon gorau posibl i bobl, gan sicrhau eu bod yn dal ati i gymryd rhan pan yn oedolion
Recriwtio
Y peth cyntaf y bydd clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol newydd am ei wneud yw recriwtio hyfforddwr (hyfforddwyr). Gall cael hyd i hyfforddwyr newydd fod yn waith anodd, ond bydd treulio amser yn gwneud hyn yn talu ar ei ganfed oherwydd bydd hyfforddwr yn ymroi nifer o flynyddoedd i glwb fel rheol. Yn draddodiadol, mae clybiau’n recriwtio o blith cyn-chwaraewyr y gamp, athrawon addysg gorfforol a rhieni / gofalwyr pobl ieuainc yn y clwb sydd wedi dangos diddordeb mewn hyfforddi.
Wrth geisio cael hyd i hyfforddwyr priodol, mae’n bwysig bod y clwb yn amlinellu’r manteision iddynt. Gall ddarparu amrywiaeth o sgiliau newydd i hyfforddwyr, sgiliau y gallant eu trosglwyddo i feysydd eraill mewn bywyd, gan sicrhau bod hynny’n beth da i’w datblygiad personol a’u cyfleoedd gyrfaol. Yn ogystal â hynny, mae’n ffordd dda o ddal ati i fwynhau rôl bositif mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol a dal ati i fod yn egnïol. Yn aml iawn mae'n haws recriwtio dau/dwy gyda'i gilydd er mwyn rhannu'r baich - i ddysgu gyda'i gilydd a helpu ei gilydd.
Cydnabyddiaeth