Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Does dim rhaid i chi ddechrau ar y lefel gyflwyniadaol bob amser a gweithio eich ffordd i fyny, mae hyfforddwyr yn dechrau ar lefel un weithiau, neu ar lefel dau. Bydd gan y Corff Llywodraethol Cenedlaethol ar gyfer eich camp ei gymwysterau hyfforddi ei hun a llwybr strwythuredig a fydd yn gallu darparu cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau hyfforddi i ba lefel bynnag yr ydych yn dymuno. Bydd raid i chi gysylltu â hwy i weld beth allant ei gynnig i chi.
Bydd y strwythur hwn ar y ffurf a ganlyn yn aml:
Rwy’n gwybod ym mha gamp y mae gennyf ddiddordeb……. cliciwch yma i ddarganfod rhagor o wybodaeth am eich hoff gamp.
Fel dewis arall, mae gan eich Awdurdod Lleol uned Datblygu Chwaraeon. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi. Bydd y rhan fwyaf o’r unedau Datblygu Chwaraeon yn cynnig rhaglen o gyrsiau hyfforddi cyffredinol ac yn ymwybodol o pa gyrsiau a gynhelir gan y Corff Rheoli Cenedlaethol yn yr ardal. Efallai y byddwch yn teimlo ei fod yn gyswllt defnyddiol gan ei fod yn darparu gwybodaeth am beth sy’n digwydd ar lefel leol.
Cydnabyddiaeth