Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Y Gist Gymunedol
Cynllun gan Gyngor Chwaraeon Cymru (CChC) a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw hwn, yn ceisio gwneud gwahaniaeth i lefel y chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn lleol. Prif ddiben Cist Gymunedol yw annog a chefnogi prosiectau da a fydd yn creu gweithgareddau a chyfleoedd newydd neu well sy’n ychwanegol at yr hyn a ddarperir eisoes, ac na fyddai’n gallu digwydd heb grant. Mae hyn yn golygu y gall clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol wneud cais am gyllid tuag at gyrsiau addysgu hyfforddwyr ar gyfer ei hyfforddwyr / gwirfoddolwyr. Mae addysgu hyfforddwyr yn flaenoriaeth uchel i’r cynllun grantiau hwn.
Pwy sy’n gymwys?
Gall sefydliadau wneud cais, ar yr amod bod ganddynt gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad. Mae hyn yn golygu y bydd raid i’r clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol wneud cais ar ran yr hyfforddwyr mewn clwb.
Sut i wneud cais?
Cysylltwch eich Swyddog Cymunedol Lleol gan glicio yma, neu cliciwch yma i lawrlwytho y ffurflen gais berthnasol
Cydnabyddiaeth