Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ystyried cyn cymryd camau pellach.
Clybiau yw asgwrn cefn chwaraeon / gweithgarwch corfforol Cymru ac mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae mewn darparu cyfleoedd i bob oedran a gallu. Er mwyn bod yn glwb effeithiol a llwyddiannus, bydd raid i chi ystyried sut mae eich clwb yn cael ei drefnu a’i redeg. Felly, gadewch i ni eich helpu i sefydlu eich clwb a gosod y sylfeini yn eu lle.
Dyma beth y cewch hyd iddo yn yr adran hon yn fras:
AELODAU: Mae’r adran hon yn ymwneud â denu a dal gafael ar eich aelodau.
HYFFORDDIANT: Bydd yr adran hon yn darparu gwybodaeth am rôl benodol hyfforddwyr.
Y RHAGLEN CHWARAE: Bydd yr adran hon yn rhoi syniadau i chi ynghylch sut i drefnu rhaglen eich clwb, gan sefydlu cysylltiadau Ysgol – Clwb a chynnig awgrymiadau ynghylch manteision cystadlaethau lleol a sut orau i baratoi ar eu cyfer.
CYFLEUSTERAU & CHYLLID: Mae’r adran hon yn darparu cysylltiadau â chyfleusterau yn eich ardal i’ch clwb.
RHEOLI EICH CLWB: Mae’r adran hon yn edrych ar y dyletswyddau gweinyddol sy’n rhan o’r gwaith o reoli eich clwb.
LLES: Gellir defnyddio’r adran hon i helpu eich clwb i fod yn fwy ymwybodol o faterion lles ac i fabwysiadu’r polisïau a’r dulliau gweithredu priodol.
Cydnabyddiaeth