Youngsters in the area are now set to hang ten, thanks to the National Lottery.
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Bwriad Clybiau Chwaraeon Cymru yw cynnig cymorth ymarferol ynghlych sut i ddechrau a datblygu eich clwb i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’ch aelodau. Mae’n cynnig syniadau a thempladau ar sut i sefydlu a rhedeg clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol ac yn darparu llawer o dempladau syml i chi eu llwytho a’u defnyddio.
Mae hefyd yn gweithio fel arwyddbost i’ch arwain at adnoddau defnyddiol eraill, yn cynnwys Cyngor Chwaraeon Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, Hyfforddiant Cymru a llawer mwy.
Defnyddiwch y fwydlen ar ochr chwith y dudalen i gael hyd i’ch ffordd o amgylch y safle. Hefyd, rhowch ychydig funudau o’ch amser i fynd am dro i’n tudalen adborth i roi eich sylwadau gwerthfawr i ni, oherwydd bydd hyn o gymorth i ni ddal ati i ddatblygu a gwella’r safle a chwrdd eich anghenion chi yn well.
Mae Clybiau Chwaraeon Cymru ar gyfer staff, aelodau pwyllgor, aelodau’n chwarae, rhieni, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sydd eisiau cael gwybod sut i ddechrau a datblygu clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol. Bydd y wefan yn cael ei ddefnyddio gan ein partneriaid, yn cynnwys Awdurdodau Lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol.
Gall eich clwb chwaraeon / gweithgaredd corfforol fod yn un o gannoedd o glybiau, er enghraifft tenis, nofio, pêl rwyd, gymnasteg, loncian, pêl droed neu gerdded. Efallai fod gennych nifer bychan o aelodau neu gymaint â 5,000. Efallai eich bod yn gwasanaethu stad dai leol, pentref bychan, tref neu Gymru gyfan. Fe all cyfanswm eich incwm blynyddol fod yn £40 neu mor uchel â £1,000,000!
Waeth pa fath o glwb ydych chi, fe gewch hyd i wybodaeth ar y tudalennau hyn i’ch helpu i ddatblygu eich camp / gweithgaredd.
Cydnabyddiaeth